Yr Iesu'n ddi-lai

(Canmol Iesu)
  Yr Iesu'n ddi-lai
  A'm gwared o'm gwae;
Achubodd fy mywyd,
  Maddeuodd fy mai;
  Fe'm golchodd yn rhad,
  Do'n wir, yn ei waed, 
Gan selio fy mhardwn
  Rhoes imi ryddhad.

  Fy enaid i sydd
  Yn awr, nos a dydd,
Am ganmol fy Iesu
  A'm rhoddes yn rhydd:
  Ffarwel fo i'r byd,
  A'i bleser ynghyd;
Ar drysor y nefoedd
  Fe redodd fy mryd.

  'R wy'n gweled bob dydd
  Mai gwerthfawr yw ffydd;
Pan elwy' i borth angau
  Fy angor i fydd:
  Mwy gwerthfawr im yw
  Na chyfoeth Periw;
Mwy diogel i'm cynnal
  Ddydd dial ein Duw.
Morgan Dafydd -1762
Aleluia 1749

Tonau [5565D]:
Cysur (Thomas Price 1809-92)
Darlington (<1897)
St Joseph (Joseph Parry 1841-1903)

gwelir:
  Ffarwel y fo'r byd
'Rwy'n gweled bob dydd

(Praising Jesus)
  Jesus unfailingly
  Shall deliver me from my woe;
He saved my life,
  He forgave my fault;
  He washed me freely,
  He did truly, in his blood,
Thus sealing my pardon
  He gave me freedom.

  My soul is 
  Now, night and day,
Wanting to praise my Jesus
  For setting me free:
  Farewell to the world,
  And all its pleasures;
On the treasures of heaven
  He set my attention.

  I am seeing every day
  That faith is valuable;
When I go to feed death
  My anchor shall be:
  More valuable to me it is
  Than the wealth of Peru;
Mor secure to support me
  In day of vengeance of our God.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~